Protestio am yr un pwnc y llynedd ym Meifod
Mewn rali ar faes y Brifwyl heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu dysgu’r Gymraeg fel pwnc Ail Iaith erbyn 2018.

Mae’r mudiad am weld un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yng Nghymru yn dod yn ei le – rhywbeth mae arbenigwyr wedi bod yn ei argymell ers 2013.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y dull o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg yn cael ei “ailwampio”.

Tair blynedd yn ôl fe gyflwynodd yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd adroddiad oedd yn galw am ddileu’r cysyniad o ddysgu Cymraeg fel ail iaith a symud at un continwwm o ddysgu drwy’r Gymraeg ym mhob ysgol.

Er bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyfaddef bod dysgu Cymraeg fel ail iaith wedi bod yn fethiant ac y byddai newid yn digwydd, fe gyhoeddodd corff Cymwysterau Cymru fis diwethaf y byddai’r cymhwyster yn aros.

Disgyblion yn cael eu “hamddifadu”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn newid bod angen newid y system ar frys gan fod “dros 27,000 o ddisgyblion yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i siarad Cymraeg bob blwyddyn.”

Mae gan ein holl bobl ifanc yr hawl i fod yn rhugl yn y Gymraeg, ond mae’r system yn eu gadael nhw i lawr ar hyn o bryd,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n ddedfryd oes i 80% o’n pobl ifanc – mor uchel â 94% yn sir Fynwy – a fydd heb y Gymraeg am weddill eu bywydau.”

Ac fe gyhuddodd y Llywodraeth o “wastraffu amser” i “osgoi penderfyniadau”, sy’n “hen dacteg gweision sifil,” meddai.

Mae’r mater yma yn rhy bwysig i’n pobl ifanc, yn rhy bwysig i’r iaith, ac yn rhy bwysig i’w adael i fiwrocratiaid ei danseilio.

Galw am benderfyniad gan Kirsty

“Mae’n rhaid achub ar y cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth fydd yn dod gyda chyflwyno’r cwricwlwm newydd yn 2018,” ychwanegodd

“Mae’n hanfodol bwysig felly ein bod yn cael penderfyniad nawr gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i weithredu hyn. Os nad yw’n digwydd nawr, ein pryder ni yw y gwelwn ni, yn y pen draw, barhad â’r cysyniad o Gymraeg ail iaith.”

Bydd Toni Schiavone yn siarad yn y rali, ynghyd â’r Prifardd Mererid Hopwood a Fflur Elin, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru.

‘Ailwampio’ Cymraeg ail iaith

Mewn ymateb, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys “parhad unigol o ddysgu ar gyfer y Gymraeg”.

“Ym mis Rhagfyr y llynedd, ysgrifennodd y Prif Weinidog i Gymdeithas yn cadarnhau bod y dull o addysgu Cymraeg yn ysgolion Saesneg yn mynd i gael ei ailwampio,” meddai llefarydd.

“Mae gwaith cyffrous eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynnwys parhad unigol o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg.

“Wrth i ni weithio i ddatblygu’r cwricwlwm newydd, mae’n hanfodol bod cymwysterau yn cwrdd ag anghenion dysgwyr sy’n dilyn unrhyw raglen Cymraeg statudol gyfredol o astudio.”

Bydd rali Cymdeithas yr Iaith – Addysg Gymraeg i bawb – dyma’r cyfle – yn dechrau am ddau brynhawn yma ger stondin y mudiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni.