Gwyn Elfyn
Ymysg y bobl fydd yn cael eu hurddo i’r Orsedd y bore yma mae un fu’n action un o gymeriadau chwedlonol Pobol y Cwm, cerddor Jazz o Lanelli a dau wleidydd.

Mae Gwyn Elfyn Lloyd Jones yn Weinidog ar Gapel Seion Drefach ger Pontyberem, ond mae’n fwy adnabyddus am chwarae’r cymeriad ‘Denzil’ yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Bydd yn derbyn y wisg werdd am ei gyfraniad i’r celfyddydau ar y cyd â dau gerddor blaenllaw o Gymru, sef Wyn Lodwick y cerddor jazz o Lanelli a Gruffydd John Harries sydd wedi cyfrannu at gerddorfeydd yr Eisteddfod gan gyfrannu hefyd at gerddoriaeth y ffilm Dan y Wenallt.

Bydd Prif Weithredwr cwmni Sain, ac aelod gwreiddiol o’r grŵp gwerin Ar Log, Dafydd Meirion Roberts, hefyd ymysg yr 13 o bobl fydd yn derbyn y wisg werdd heddiw.

Y wisg las

Bydd deunaw yn cael eu hurddo â gwisg las yr Orsedd heddiw am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r rhain yn cynnwys Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts, yr aelod benywaidd cyntaf i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan.

Bydd Gwenda Thomas, cyn-Aelod Cynulliad Llafur Castell-nedd hefyd yn cael ei hanrhydeddu â’r wisg las.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo â’r wisg wen.