Merch a’i mam o Forfa Nefyn yn Llŷn ddaeth yn ail ac yn drydydd am un o’r prif wobrau barddoniaeth yn Y Fenni.

Marged Tudur ac Esyllt Maelor, yn y drefn yna, gafodd eu gosod yn ail ac yn drydydd i Elinor Gwynn yn y feirniadaeth lwyfan ar gystadleuaeth y Goron ddydd Llun.

Roedd Marged, dan y ffugenw Glyder, wedi ysgrifennu casgliad o gerddi am y profiad o golli ei brawd, Dafydd Tudur, mewn damwain drasig ar ffordd osgoi Y Felinheli y llynedd; a’i mam, dan y ffugenw mae o yma yn cynnig sylwebaeth ar fywyd trwy ei phortreadau o werthwr Big Issue, pobol capel, ac ymweliad â charchar, ymysg pethau eraill.

Wrth gyfeirio at waith Marged Tudur, sydd yn fyfyrwraig PhD yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r beirniad yn dweud “… does dim gormodiaeth nag ymdrybaeddu mewn emosiynau, yn hytrach, mewn sawl un o’r cerddi, mae hi bron fel petai hi un cam oddi wrth ei galar ac yn disgrifio’r pethau diriaethol yn digwydd. A hynny’n gadael i ninnau rannu’r profiad.”

Cafodd ei mam, Esyllt Maelor, sy’n gyn-enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd, ei disgrifio yn y feirniadaeth lwyfan fel un a’i gwaith yn “hwylio’n agos iawn at y ffin anweledig honno nad yw’n bod rhwng barddoniaeth a rhyddiaith. Ac eto o’u darllen yn uchel cefais fy swyno…”

Cerddi… cyn y Cyfansoddiadau!

Eleni, am y tro cynta’, mae hi’n bosib darllen casgliad buddugol Elinor Gwynn ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol – a hynny er nad ydi’r gyfrol Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau ar gael i’w phrynu nes y bydd enw enillydd y Gadair yn cael ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn toc wedi 5yp ddydd Gwener.

Mae yna gryn edrych ymlaen i weld a fydd golygydd newydd y gyfrol, Gwyn Lewis, wedi newid rhywfaint ar ddiwyg a chynnwys y llyfr sydd ymhlith gwerthwyr gorau’r flwyddyn. Dyma’r tro cynta’ iddo fod wrth y llyw, ar ôl cymryd drosodd gan J Elwyn Hughes a fu wrthi am dros 30 mlynedd cyn hynny.