Betsan Powys - 'dim newid mawr' (Llun: BBC)
Fydd penaethiaid Radio Cymru ddim yn rhuthro i newid cynnwys a chyfeiriad, yn ôl y Golygydd, Betsan Powys – er gwaetha’r ffigurau gwrando isa’ yn ei hanes.

Fe fydd yr orsaf yn parhau i anelu “at agor y drws i gynulleidfaoedd newydd”, meddai wrth ymateb i’r newyddion fod nifer y gwrandawyr wedi syrthio i 103,000 bob wythnos – 13,000 yn llai na thros yr un chwarter y llynedd.

Y dewis arall fyddai canolbwyntio’n llwyr ar y gynulleidfa draddodiadol ond doedd hi ddim yn credu ei bod yn amser newid strategaeth.

“Wrth gwrs ei bod hi’n siom cael y ffigurau isa’ eto ond ryden ni’n dal ein tir yn well na gorsafoedd cyfatebol. Dw i ddim yn mynd i ymateb dros nos; mae’n rhiad ceisio edrych ar bethau dros y tymor hir.”

‘Sefydlogi’

Ar ôl cwymp sylweddol ddwy flynedd yn ôl, dadl Betsan Powys oedd fod nifer y gwrandawyr wedi sefydlogi, gyda thri chwarter o gynnydd wedi bod cyn y gostyngiad diweddara’.

Ar ôl newidiadau ynghynt eleni, mae’n credu bod y drefn rhaglenni yn gry’, gan gynnwys y newidiadau a wnaed i drefn y bore – y cyfnod mwya’ allweddol.

Fe fydd nifer o gyfresi rhaglenni yn dod i ddiwedd eu cytundebau yn ystod y flwyddyn nesa’ a’r rheiny’n cynnwys prif raglen y prynhawn gyda Tommo.

Pryder am Radio Wales

Mae Golwg 360 yn deall bod mwy o bryder o fewn y BBC am ffigurau Radio Wales a welodd ostyngiad o fwy na 40,000 ar y chwarter diwetha’ a 75,000 o gymharu â blwyddyn yn ôl.