Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C Llun: S4C
Yn dilyn trafodaeth am ddyfodol S4C ar faes yr Eisteddfod heddiw, mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi cadarnhau mai un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sianel ydy ceisio ymateb i’r newid mewn tueddiadau gwylio.

Dywedodd Huw Jones fod “cynnydd sylweddol” yn y nifer sy’n gwylio rhaglenni S4C ar-lein a bod hynny’n duedd arbennig “ymhlith y genhedlaeth iau.”

Er hyn cadarnhaodd nad oedd yn rhagweld y byddai’r sianel yn troi oddi wrth amserlen luniol ac yn troi at ddarlledu ar-lein yn unig gan ddweud – “dw i’n rhagweld y bydd gwasanaeth lluniol am y ddeng mlynedd nesaf, ond defnydd cynyddol [ar blatfformau ar-lein],” meddai.

“Un o’r heriau sylfaenol i S4C ydy darparu yn synhwyrol gyda’r cyllid sydd ar gael,” ychwanegodd.

Daw ei sylwadau yn dilyn trafodaeth rhyngddo ef, Sian Powell darlithydd y Cyfyngau a Datganoli’r Coleg Cymraeg, a Jamie Bevan Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

‘Pwyso a mesur’
 

Ychwanegodd Huw Jones fod S4C wedi arbrofi’n ddiweddar â sianel ddigidol newydd, sef Pump, sy’n gweithredu ar gyfryngau cymdeithasol.

“Dy’n ni wedi targedu cynulleidfa, ac ar ddiwedd y tri mis o arbrawf bydd gennym ni ryw syniad o faint o ddefnydd fuodd gan bwyso a mesur o ran y cyfeiriad yna,” meddai.

Is-deitlau

Cyfeiriodd hefyd at ‘ymgyrch farchnata’r sianel’ lle bu isdeitlau Saesneg gorfodol ar rai o raglenni S4C am wythnos ym mis Mawrth.

Dywedodd bod y gwersi gafodd eu dysgu yn cynnwys “sicrhau gwybodaeth ymlaen llaw am fwriad yr ymgyrch,” meddai.

Ychwanegodd ei bod yn “hanfodol” bod pobl yn gwybod bod gwasanaethau is-deitlo ar gael, ond “nad yw’n fwriad i newid polisi presennol y sianel o ran isdeitlau.”