Mae’r beirdd wedi bod yn llongyfarch carfan bêl-droed Cymru heddiw, wrth i Barddas gyflwyno poster o gerdd i bob un aelod o’r garfan.

Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, oedd yn derbyn y poster o gerdd o waith y Prifardd Llion Jones ar stondin y Gymdeithas heddiw, yn syth wedi’r ymryson yn y Babell Lên.

“Mi fasa hi wedi bod yn beth da i’r garfan fod ar y Maes yr wythnos yma,” meddai Ian Gwyn Hughes, “oherwydd mae’r croeso dros y dau ddiwrnod diwetha’ yma wedi bod yn gynnes iawn.

“Pan ddechreuais i yn y swydd yma chwe blynedd yn ôl, o’n i’n awyddus iawn i bob aelod o’r garfan fod yn ymwybodol o hanes y genedl,” meddai wedyn. ”

“Dyna pam y buon ni i weld bedd Hedd Wyn, ac y cafodd y chwaraewyr wybod am bob math o ddigwyddiadau hanesyddol. Ac eleni, mi fyddwn ni’n dweud wrthyn nhw am 80 mlynedd ers Penyberth, a hanner canrif Aber-fan.”

Taid Ian Gwyn Hughes, y Parchedig Lewis Valentine, oedd un o’r tri a gynheuodd y ‘Tân yn Llyn’ yn 1936, ynghyd â Saunders Lewis a D J Williams.