Mae’r awdures, Bethan Gwanas, i’w gweld yn crwydro maes yr Eisteddfod ar sgwter, wedi iddi gael triniaeth i gael clun newydd.

Ond, yn hytrach na chael pobol yn dod ati drwy’r amser yn gofyn iddi pam ei bod ar y cerbyd, mae’n rhannu darnau o bapurau i eisteddfodwyr yn egluro ei sefyllfa.

“Stori hir,” meddai’r darn papur, “ond os ydach chi wir isho gwybod: cefais glun newydd Gorffennaf llynedd, ond daeth allan! Anafwyd y ‘femoral nerve’ = llanast. Wedyn, wedi pum mis ar faglau, chwe mis heb yrru, mae’r teimlad yn dod yn ôl yn araf (iawn).

“Grisiau yn anodd. Beicio yn iawn. A dyna pam mod i wedi llogi sgwter ar gyfer y deuddydd dwi yn y Steddfod,” meddai wedyn. “Ac wedi paratoi’r eglurhad hwn rhag diflasu pawb sy’n gofyn be ddigwyddodd…”