Plant yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia trwy'r cynllun (Llun: British Council Cymru)
Mae’r gwaith wedi dechrau i geisio sicrhau arian i barhau gyda’r cynllun dysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Mae’r cyfanswm o £70,000 sy’n cynnal y prosiect yn gwbl allweddol, meddai’r dyn sy’n monitro’r cynllun, Rhisiart Arwel.

Fe fydd yr arian yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn a does dim sicrwydd eto am arian ar gyfer y dyfodol – mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £50,000 a Chyngor Prydeinig Cymru’n rhoi £15,000 gyda Chymdeithas Cymru’r Ariannin yn ychwanegu £5,000 arall.

Yr elfen allweddol yw cyfraniad y Llywodraeth a fydd, y flwyddyn nesa’, wedi bod yn cael ei roi ers 20 mlynedd.

‘Hynod o bwysig’

“Mae’r arian yn hynod o bwysig i gynal Cymreictod yn y Wladfa,” meddai Rhisiart Arwel. “Dyma’r unig gynllun addysg ryngwladol Cymraeg sydd gan Lywodraeth Cymru. Yn 1997, roedd yna 550 o ddysgwyr ym Mhatagonia, y llynedd roedd yna 1,200.”

Mae’r arian yn cynnal un swyddog llawn amser ym Mhatagonia ac yn talu am anfon tri athro-ysgogwr o Gymru bob blwyddyn i gynnal dosbarthiadau ac ysgogi gweithgareddau.

Mae hysbyseb ar fin ymddangos yn gofyn am dri o bobol frwdfrydig i fynd allan i Batagonia y flwyddyn nesa’ – os bydd yr arian ar gael.

‘Mwy na gwersi’

Mae’r arian hefyd yn cyfrannu at dalu i swyddogion rhan amser a thiwtoriaid yn y Wladfa ac, yn ôl cefnogwyr y cynllun, yn gwneud llawer mwy na chynnal dosbarthiadau Cymraeg.

“Mae’r gweithgaredd yn arwain at bethau diwylliannol eraill,” meddai Sandra de Pol, partner Rhisiart Arwel oedd yn yn o’r dysgwyr cynta’ gyda’r cynllun 20 mlynedd yn ôl. “Bellach, mae yna bobol ifanc yn helpu i gynnal eisteddfodau a phethau o’r fath.

“Fyddwn i ddim wedi dysgu Cymraeg oni bai am y cynllun yma. Ac mae wedi arwain at sefydlu tair ysgol ym Mhatagonia.”

Mae Rhisiart Arwel yn gobeithio cael cyfarfod gyda Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn y dyfodol agos.