Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai cwmni Keir Group plc fydd yn codi pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin.

Fe fydd y pencadlys yn agor yn 2018 ar ganolfan lle bydd y brifysgol, S4C a phartneriaid yn cydweithio er mwyn creu llwyfan i’r diwydiannau creadigol.

Fel rhan o’r broses gaffael gystadleuol, mae Kier Group wedi ymrwymo i weithio gyda’r brifysgol ac S4C i sicrhau bod y prosiect yn cynhyrchu manteision ehangach yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod adeiladu:

* cefnogi’r economi drwy ddefnyddio cyflenwyr lleol;

* defnyddio is-gontractwyr a chyflenwyr lleol, lle bo hynny’n ymarferol.

Disgwylir y bydd effaith economaidd Canolfan S4C Egin yn arwain at greu 98 o swyddi newydd, yn cynnwys chwech uned ddeor ar gyfer cwmnïau graddedigion a fydd yn cael eu sefydlu; clwstwr o 175 o swyddi o fewn un gymuned greadigol; darparu 75 swydd llawn amser yn cael eu hadleoli yn cynnwys 55 o S4C; yn ogystal â chreu 507 o swyddi cyflenwi llawn amser a 85 o swyddi o fewn y diwydiant teledu.