Elwyn Jones, ar y chwith, mewn cyfarfod
Mae Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ym mis Ionawr.

Ond mae Elwyn Jones wedi dweud yn glir nad oes a wnelo hynny ddim â’r arolwg sydd ar droed ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac mae’n credu bod dyfodol y Cyngor yn gwbl sicr.

“Oherwydd fod y diwydiant yn gryfach nag erioed, mae’r Cyngor yn gryfach nag erioed hefyd,” meddai wrth Golwg 360 yn union wedi gwneud y cyhoeddiad yn yr Eisteddfod.

‘Cyfannu’

Mae Elwyn Jones wedi bod yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau ers 20 mlynedd ac yn Brif Weithredwr ers 7. Fe fydd yn 60 ym mis Ionawr a dyna’r unig reswm tros ei benderfyniad, meddai.

Fe ddywedodd ei fod yn rhoi’r gorau iddi tra oedd ganddo ddigon o ynni i ddilyn diddordebau eraill.

“Y Cyngor Llyfrau ydi caloin y diwydiant,” meddai. “Mae’n cyfrannu at yr economi, at addysg a llythrennedd, at gefn gwlad ac at gyfuno a chyfannu Cymru.”

Yn ystod ei gyfnod gyda’r Cyngor, mae’r corff wedi cymryd cyfrifoldeb am lyfrau Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg.