Canran y plant 5-15 oed sy’n medru siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981 Llun: PA
Mae’r adroddiad pum mlynedd gyntaf ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn gyfuniad o “gynnydd” a “gostyngiadau” o ran y niferoedd sy’n siarad Cymraeg.

Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ganolbwyntio ar dri maes ar gyfer yr adroddiad – sef ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011, creu siaradwyr Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg.

Ac un o’r prif ganfyddiadau ydy bod canran y plant 5-15 oed sy’n medru siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981.

13% o bobl Cymru’n siarad Cymraeg

 

Er hyn, mae’r adroddiad hefyd yn amlygu y bu gostyngiad o fwy nag 20,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011.

Yn ogystal, mae nifer y cymunedau lle mae 70% yn siarad Cymraeg wedi gostwng o 53 yn 2001 i 39 erbyn 2011.

O ran ffigurau eraill, mae 85% o bobl yn credu fod y Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae 86% yn credu fod yn yr iaith yn bwysig i’r diwylliant Cymreig.

Ac mae 13% o bobl Cymru’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

“Troi gostyngiad yn gynnydd’

 

“Rydym hanner ffordd rhwng dau Gyfrifiad, ac er mwyn troi’r gostyngiad a welwyd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 yn gynnydd erbyn 2021, mae angen deall y rhesymau dros y gostyngiad ac adnabod y meysydd i adeiladu arnynt,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

“Yr her yn awr yw i wleidyddion, gweision sifil, sefydliadau a mudiadau ystyried yr adroddiad ac adnabod y cyfleoedd a’r bylchau,” ychwanegodd.

“Gydag arweiniad strategol clir, cynllunio bwriadus a gweithredu effeithiol, hyderaf y bydd modd gwireddu’r nod o greu Cymru lle bydd y Gymraeg yn ffynnu a lle bydd hi’n rhan cwbl naturiol o fywyd pob dydd, ym mhob rhan o’r wlad,” meddai.