Meri Huws, Comsiynydd y Gymraeg, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy Llun: Golwg360
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth golwg360 fod agwedd neges Twitter gan ymchwilydd i raglen Radio 5 Live “ddim yn dderbyniol o gwbl.”

Dywedodd Meri Huws ei bod wedi cysylltu’n syth â’r BBC ar ôl gweld y neges gan ymchwilydd o’r enw Sam Proffitt oedd yn gofyn am gyfranwyr i drafod “a ddylid gadael i’r iaith Gymraeg farw?”

Esboniodd y Comisiynydd ei bod wedi derbyn ymddiheuriad gan y gorfforaeth a chan bennaeth Radio 5 Live, Jonathan Wall, yn ystod y dydd.

Ond, fe bwysleisiodd y byddai’n parhau i geisio cysylltu gyda’r BBC ac i ofyn am gyfarfod â phennaeth y BBC yng Nghymru.

“Mae angen tynnu sylw’r BBC eto at y math yma o negyddiaeth sydd yn eu hadroddiadau nhw ar adegau. Fe welon ni rhywbeth nid annhebyg yn ddiweddar ar Week In Week Out,” meddai.

‘Hollol amhriodol’

“Roedd agwedd y neges yn hollol, hollol amhriodol,” ychwanegodd Meri Huws.

“Roeddwn i wedi fy synnu eu bod yn caniatáu i’r math yna o gamgymeriadau ddigwydd, a dw i’n synnu bod neb wedi gwirio natur y neges cyn mynd allan.”

Ymddiheuriad

Mewn datganiad, dywedodd Radio 5 Live eu bod nhw’n awyddus i “adlewyrchu’r ystod lawn o safbwyntiau”.

“Wrth geisio gwneud hyn,” medd y datganiad, “cafodd trydariad amhriodol ei anfon o gyfrif personol. Rydym yn flin am unrhyw sarhad a gafodd ei achosi.”

Ychwanegodd llefarydd nad oedd y trydariad hwnnw’n adlewyrchiad teg o’r rhaglen yn ei chyfanrwydd.

Safonau

Fe gafodd golwg360 gyfle i holi’r Comisiynydd hefyd am y diweddaraf o ran y Safonau Iaith.

Dywedodd Meri Huws eu bod “mewn sefyllfa ddiddorol.”

“Mae’r tri deg nesaf o sefydliadau wedi derbyn eu hysbysiadau nhw fel y Gerddi Botaneg, Amgueddfeydd Cymru, y gronfa Loteri, Ofcom – sefydliadau mawr Cymru,” meddai.

Er hyn, roedd yn cydnabod bod ambell awdurdod lleol wedi herio’r safonau, a’u bod yn “datrys y problemau gam wrth gam.”

“Cyn diwedd mis Medi, fe fydd yr heddluoedd a’r gwasanaethau argyfwng hefyd yn derbyn eu hysbysiad terfynol,” meddai.

Mae’r adroddiad pum mlynedd gyntaf ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru hefyd wedi’i gyhoeddi heddiw ac mae’n dangos cyfuniad o “gynnydd” a “gostyngiadau” o ran y niferoedd sy’n siarad Cymraeg.