Meirion Davies, un o ysbrydolwyr y cynllun (Llun g360)
Mae cynllun a allai helpu i weddnewid y cysylltiad rhwng dyfodol y Gymraeg a’r economi wedi dod gam yn nes.

Ar ôl cael cefnogaeth gychwynnol trwy’r Cynllun Dabtlygu Gwledig, fe fydd y cynllun yn cael ei ddatblygu ymhellach i gyplysu galw am swyddi a’r angen am weithwyr Cymraeg.

Y gobaith yw y bydd cynllun peilot y Farchnad Lafur Cymraeg yn cael ei lansio ym mis Ionawr y flwyddyn nesa’ ac yn parhau am ddwy flynedd.

Fe fyddai’n tynnu cyrff a chwmnïau preifat at ei gilydd ac yn chwilio am anghenion a chyfleoedd a chynllunio’r ymateb iddyn nhw, gan gynnwys hyfforddi.

Cynllun peilot

Fe glywodd cyfarfod ar faes yr Eisteddfod y bydd y cynllun peilot, sydd dan adain y cwmni FourCymru, yn canolbwyntio i ddechrau ar dri maes – twristiaeth, bwyd a diod a diwydiannau creadigol.

Fe allai hamdden gael ei gynnwys hefyd, meddai Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru a wnaeth y cyhoeddiad am lwyddiant y cais cychwynnol.

Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn pwyso am ddatblygiad o’r fath ac yn ôl eu cyn-gadeirydd, Meirion Davies, fe allai’r syniad ddatblygu’n ffordd o weithio’n llawer ehangach wrth gynllunio ar gyfer yr iaith a’r economi ochr yn ochr.

Roedd y cyfarfod hefyd yn datgelu canlyniad arolwg a wnaed gan Brifysgol Aberystwyth i’r syniad ac i’r posibilrwydd o ddenu arian cronfeydd Ewropeaidd i gefnogi cynlluniau iaith ac economi.

Yn ôl dirprwy is-Ganghellor y Brifysgol, Rhodri Llwyd Morgan, un angenrhaid oedd argyhoeddi Llywodraeth bod angen cynlluniau penodol i ddatblygu busnes yng nghyswllt y Gymraeg, nid dim ond darparu gwasanaethau presennol yn ddwyieithog.