Mae un o feirniaid yr unawdau o sioeau cerdd wedi cymryd hoe o’i waith yn actio yn y West End er mwyn bod yn Y Fenni yr wythnos hon.

Mae Steffan Harri, sy’n rhan o gynhyrchiad West End sioe Les Miserables, yn beirniadu’r gystadleuaeth unawd sioe gerdd dan 19 oed, ac fel un sydd wedi treulio blynyddoedd yn cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn, mae’n dweud ei bod yn braf cael bod yn ôl.

“Mae llwyfan yr Eisteddfod yn well!” meddai gyda gwên wrth gymharu’r ddau lwyfan – y Pafiliwn a Theatr y Queen’s yn Llundain, lle mae sioe Les Miserables wedi bod ers tua 30 mlynedd.

Dywed hefyd fod perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod wedi bod yn help mawr iddo yn ei yrfa, a bod ganddo “llawr i ddiolch” am y cyfle.

“Wnes i gystadlu rhyw bedair, bum mlynedd yn ôl, a wnes i ennill Gwobr Goffa Wilbert Lloyd Roberts am fy unawd sioe gerdd,” meddai Steffan Harri wrth golwg360.

“A beth sy’n rhyfedd, mae Ian Baar, sy’n beirniadu efo fi, fo oedd yn fy meirniadu bryd hynny. Felly mae gen i lot i ddiolch iddo fo hefyd.”

Les Mis – uchelgais erioed

Mae’r actor ifanc wedi bod yn perfformio rhan Combeferre yn Les Miserables, ac yn eilydd i ran Enjolras ers tri mis.

Mae’n dweud bod perfformio yn y West End, ac yn enwedig yn Les Miserables, wedi bod yn uchelgais ganddo erioed.

“Pan o ni’n tyfu fyny fe es i weld y sioe a nes i feddwl, fyswn ni’n hoffi bod yn y sioe ‘na, ac mae’n grêt cael ei alw’n swydd nawr a’i wneud bob dydd,” meddai.

“Fel pawb arall, dwi’n cael 28 diwrnod o wyliau, a hwn ydi’r gwyliau cyntaf dw i wedi’i cael, felly dw i wedi cael tridiau adre a mynd yn ôl i’r sioe yn Llundain fory.”