Llio Angharad yn hyrwyddo Diwrnod Miwsig Cymru
Mae un o frandiau stryd fawr y gwr busnes, Phillip Green, bellach yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg – a nod Llywodraeth Cymru ydi cael mwy o siopau i wneud yr un peth.

Wrth gyhoeddi mai ar Chwefror 10 y bydd Diwrnod Miwsig Cymru yn cael ei gynnal y flwyddyn nesa’, fe ddyweodd cynrychiolydd Llywodraeth Cymru mai ei nod ydi cael mwy i ddilyn esiampl Top Shop.

“Roedd Dydd Miwsig Cymru y llynedd yn llwyddiant,” meddai Llio Angharad ar faes Y Fenni heddiw, “gydag ysgolion yn trefnu gigs, siopau yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg, a busnesau eraill yn rhoi arian i ffwrdd i bobol oedd yn prynu miwsig Gymraeg.

“Y flwyddyn nesa’, ar Chwefror 10, r’yn ni eisiau gweld mwy o fusnesau’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn y man gwaith, ac mae gweld siop fel Top Shop yn gwneud hynny yn galonogol iawn.”