Un o'r negeseuon gwreiddiol ar dudalen Twitter yr ymchwilydd
Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl i ymchwilydd ar raglen Radio 5 Live drydar cwestiwn yn gofyn am gyfranwyr i drafod “a ddylid gadael i’r iaith Gymraeg farw?”

Ymgais oedd y trydariad gan Sam Proffitt i geisio cyfranwyr i raglen ddydd Llun oedd yn trafod sefyllfa ieithoedd ac eithrio Saesneg yng ngwledydd Prydain.

Mae modd clywed y rhaglen ar wefan Radio 5 Live (tua 2 awr 39 munud).

Mewn datganiad, dywedodd Radio 5 Live eu bod nhw’n awyddus i “adlewyrchu’r ystod lawn o safbwyntiau”.

“Wrth geisio gwneud hyn,” medd y datganiad, “cafodd trydariad amhriodol ei anfon o gyfrif personol. Rydym yn flin am unrhyw sarhad a gafodd ei achosi.”

Ychwanegodd llefarydd nad oedd y trydariad hwnnw’n adlewyrchiad teg o’r rhaglen yn ei chyfanrwydd.

Mae’r trydariad bellach wedi cael ei ddileu.

“Rhaid adlewyrchu’r ddadl ar lawr gwlad”

“Does dim dadl go iawn ar a ddylen ni gael y Gymraeg ai beidio, y dadl yw sut ydan ni’n ei chryfhau,” meddai Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith.

“Dwi’n meddwl bod yn rhaid i’r cyfryngau, yn enwedig y cyfryngau Prydeinig, sylweddoli bod dim dadl ganddyn nhw, y ddadl yw sut ydyn ni’n gwneud yr hyn sy’n iawn i’r iaith Gymraeg, nid yr hen ddadl o 50 mlynedd yn ôl y dylai’r Gymraeg ddiflannu.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn gefnogol iawn i’r iaith felly mae’n rhaid i ni adlewyrchu’r ddadl go iawn ar lawr gwlad.”

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, fod y ddadl yn codi cwestiynau dros “agenda’r BBC”.

“Dw i’n meddwl bod o’n warthus i ddweud y gwir ac unwaith eto, mae o’n gofyn cwestiynau mawr ynglŷn â’r BBC – nhw ddylai fod yn ateb cwestiynau i ni ar hyn o bryd,” meddai.

“Dim dyna’r tro cyntaf iddyn nhw ddangos agwedd gelyniaethus tuag at yr iaith Gymraeg yn anffodus, mi fyddwn i’n licio gwybod, be ydy’u agenda nhw? Be yn union maen nhw’n trio ei wneud yn fan hyn?

“Maen nhw’n corddi’r dyfroedd go iawn mewn cyfnod lle mae ‘na bositifrwydd ynlgŷn â’r iaith Gymraeg.”

Sylw “hiliol”

Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, pe bai’r un peth yn digwydd i “unrhyw leiafrif ething arall”, byddai’r BBC yn cael eu cyhuddo o fod yn “hiliol”.

“Dw i’n meddwl pe bai’r BBC yn gwneud y sylwadau yna, bod angen i iaith farw, am unrhyw leiafrif ethnig arall ym Mhrydain, bydden nhw’n cael eu cyhuddo o fod yn hiliol a debyg iawn, fydda ‘na achos llys,” meddai.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd bod y gorfforaeth Brydeinig ddeall bod ‘na iaith ffyniannus yng Nghymru… ac mae’u busnes nhw yw ei hannog hi a hannog ei defnydd.”

Cyfranwyr

Ymhlith y cyfranwyr i’r rhaglen roedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a chynrychiolwyr o rai o’r ieithoedd Celtaidd eraill.

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd Anna Foster nad oedd hi am sarhau’r cyfranwyr drwy geisio ynganu rhai o’r geiriau o’r ieithoedd a gafodd eu defnyddio, cyn mynd ymlaen i geisio ynganu enw yn y Wyddeleg.

Ymateb ar Twitter

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru ym Môn, Rhun ap Iorwerth wedi mynegi ei ddicter, gan ofyn am eglurhad gan Radio 5 Live.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:


Dyma oedd ymateb Hedd Gwynfor i’r ffrae: