Mae’r wraig gynta’ i fod yn Archdderwydd Cymru wedi casglu ynghyd ei hareithiau oddi ar y Maen Llog, a’u cyhoeddi’n gyfrol.

Mae Rhwng y Meini gan Christine James yn cynnwys pob un o’i chyfraniadau o seremonïau Cyhoeddi’r brifwyl ac o’r Cylch yn ystod ei thair blynedd yn bennaeth ar Orsedd y Beirdd rhwng 2013-15.

“Un peth sy’n sicr,” meddai’r cyn-Archdderwydd Christine wrth golwg360, “roedd yn rhaid i mi gadw’n driw i bwy ydw i. Roedd Jim Parc Nest a’i steil ei hunan, a Robyn Llyn a’i steil unigryw wrth areithio, ac mi fydd gan Geraint Llifon ei steil ei hunan hefyd…

Stick to what you know yw hi fel Archdderwydd, ac mae fy niddordeb i yn hanes llenyddiaeth a’r Oesoedd Canol, felly roedd hi’n naturiol i fy anerchiadau i fod yn canoli ar y pethau hynny.”

Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr

A’r un y mae hi fwya’ balch ohoni, meddai, ydw’r un a draddododd ar fore Llun cynta’ Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 – ganrif union ers y torrodd y Rhyfel Mawr allan.

Yn yr ysgrif honno, mae’n cyfeirio at Almaenwr o arlunydd o Bafaria, Hubert von Herkomer, a ail-gynlluniodd llawer o regalia’r Orsedd – yn cynnwys gwisg yr Archdderwydd a’r Cleddyf Mawr.

“Un o ddefodau hynaf yr Orsedd yw trin y cleddyf,” meddai Christine James yn ei hanerchiad o 2014.

“Yn yr Orsedd gyntaf oll ar Fryn y Briallu yn Llundain yn 1792, gosododd Iolo, yr heddychwr tanbaid, gleddyf noeth yn ôl yn y wain gyda chymorth pawb a oedd yn bresennol, a hynny’n arwydd, mewn cyfnod gwaedlyd iawn, mai corff i hyrwyddo heddwch oedd ei Orsedd ef.

“Ac mae’n dra addas felly, ar yr union ddiwrnod sy’n nodi canmlwyddiant cyhoeddi’r Rhyfel Mawr, ac wrth inni gofio’r miliynau a laddwyd yn y gyflafan erchyll honno, ein bod ni fel cynulleidfa wedi galw ar goedd am heddwch gan ddefnyddio cleddyf a gynlluniwyd gan Almaenwr, a hwnnw’n gyfaill mawr i ni’r Cymry.”