Prifardd y goron ddwy flynedd yn ôl, ydi awdur nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni – a hynny gyda nofel sy’n deillio o brofiad personol yr awdur ar gwrs o radiotherapi ym Manceinion.

Guto Dafydd o Bwllheli ddaeth i’r brig o blith naw o gystadleuwyr gyda’i gyfrol, Ymbelydredd, sy’n sôn am yr hyn sy’n digwydd i ddyn ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi yn un o ysbytai’r ddinas yng ngogledd Lloegr. Y llynedd, roedd y nofelydd ei hun yn derbyn triniaeth ddyddiol yn Ysbyty Christie at dyfiant ffibromatosis ymosodol ar wal y frest.

Mewn cystadleuaeth a gafodd ei disgrifio gan un o’r beirniaid, Jon Gower, fel un brin ei dychymyg a lle roedd safon iaith ddim bob amser yn taro deuddeg, fe gafodd Ymbelydredd ei chanmol fel “nofel wych” a bod “yr awdur i’w ganmol am osgoi unrhyw sentimentaleiddrwydd a fuasai wedi gallu baglu nifer o awduron llai medrus”.

Mae Guto Dafydd wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Nia Bia’r Awyr, nofel dditectif i bobol ifanc, Jac, a nofel i oedolion, Stad. Mae’n un o’r tim creadigol sydd wrthi’n creu cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, a fydd yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf.