Mae yna alwadau o’r newydd heddiw am ystyried darlledu newyddion y dydd am chwech yr hwyr ar wasanaethau’r BBC yng Nghymru a’r Alban.

Daw hyn wedi i’r Pwyllgor Seneddol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ymateb i Bapur Gwyn y Llywodraeth ar ddyfodol Siarter y BBC.

Roedd eu hadroddiad yn awgrymu y gallai rhaglen newyddion wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer yr Alban gael ei darlledu ar y teledu am chwech yr hwyr yn yr Alban.

O ganlyniad, mae hyn wedi sbarduno galwad am wasanaeth tebyg yng Nghymru, ac un sy’n dweud y dylai hynny gael ei ystyried ydy Suzy Davies, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig.

‘Angen gwell cynrychiolaeth’

A hithau’n llefarydd ar ddarlledu yng Nghymru, dywedodd Suzy Davies ei bod yn croesawu nifer o ganfyddiadau’r Pwyllgor Diwylliant, Darlledu a Chwaraeon.

Dywedodd: “Gyda thrafodaethau am raglen newyddion deledu newydd wedi’i hangori yn yr Alban, mae’n hollbwysig fod ystyriaethau tebyg i Gymru yn parhau i gael eu hystyried,” meddai.

Ychwanegodd y gallai hyn gynnwys “Newsnight i Gymru” gan bwysleisio fod angen “gwell cynrychiolaeth o newyddion Cymreig a materion cyfoes wrth ddarlledu.”

“Mae’r BBC wedi nodi eu dymuniad i fod yn atebol i holl genhedloedd y DU, ac mae’n hollbwysig bod y bwrdd unedol newydd yn croesawu’r syniad hwn,” meddai.

“Mae’n rhaid i lais Cymru gael ei glywed, a chael dylanwad.”

Er hyn, dywedodd nad oedd llawer o sôn yn yr adroddiad fel arall am ddarlledu yng Nghymru, heblaw am “fwriad BBC Alba i gael yr un statws ag S4C.”

Mae’n debyg fod y galwadau hyn am raglenni newyddion penodol i’r Alban a Chymru yn deillio o feirniadaeth bod prif raglen newyddion y BBC yn ymdrin â straeon amherthnasol am fod y materion wedi’u datganoli.