Ambiwlans Awyr Cymru
Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod am gyflwyno blychau gofal dwys i gludo babanod bregus yn y dyfodol.

Yn ôl yr elusen, mae’r blychau (neu’r incubator) yn cynnwys cyfarpar all gynnig gwres ac ocsigen i’r babis ynghyd â siambr dryloyw i fonitro eu cyflwr wrth hedfan.

Mae’r dechnoleg newydd yn rhoi’r gwasanaeth yng Nghymru ar y blaen o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n dweud y bydd babanod yn medru cyrraedd yr ysbytai ynghynt am na fydd rhaid iddynt deithio siwrneiau hir mewn ambiwlans ar hyd y ffordd.

Rheolaeth tymheredd – ‘hynod o bwysig’

Mae’r blychau wedi costio £70,000, gyda’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi talu amdanynt.

Yn ogystal, mae meddygon o Gymru wedi cydweithio â’r gwneuthurwyr yn y Swistir i’w dylunio.

Yn ôl Dr Dindi Dill, Cyfarwyddwr dros dro’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru): “Fe fydd y blychau gofal dwys newydd yn gwella gallu timau EMRTS i roi gofal i fabanod sy’n cael eu geni yn eu cartref neu yn yr ysbyty.

“Bydd y datblygiad hwn yn arbennig o bwysig i fabanod cynamserol,” meddai.

“Mae’n cydnabod fod rheolaeth tymheredd yn hynod o bwysig i’r criw yma o gleifion ac am hynny rydym yn croesawu’r gallu i gario’r blychau ar hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae criwiau’n cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r offer ar hyn o bryd, a bydd y blychau yn cael eu treialu tan ddiwedd 2016.