Siec Gymraeg Cymdeithas yr Iaith yn galw am newid gan y banciau
Mae dau fudiad wedi uno ar faes y Brifwyl heddiw i roi pwysau ar fanciau i ddarparu gwasanaethau cyflawn Cymraeg.

Mae Merched y Wawr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu cydweithio i alw ar unigolion a mudiadau i wrthod gwasanaethau uniaith Saesneg gan symud eu harian i fanc sy’n gwasanaethu’n llwyr yn Gymraeg.

Er hyn, nid oes yr un banc yn darparu gwasanaethau cyfan gwbl Gymraeg ar hyn o bryd – ac nid oes darpariaeth bancio ar-lein ar gael yn y Gymraeg

Y we a ‘banciau yn cau’

Yn ôl Meryl Davies Llywydd Merched y Wawr, mae dyfodol gwasanaethau Cymraeg mewn banciau wedi bod yn destun pryder ymhlith canghennau’r gymdeithas.

“Bellach efo banciau yn cau yng nghefn gwlad ac wrth i bethau mynd ar y we, mae’r Gymraeg yn diflannu,” meddai.

“Hefyd, gan fod lot o ardaloedd heb y we, does dim gwasanaeth bancio o gwbl i rai,” ychwanegodd.

“Rhaid cofio mewn rhai cyd-destunau os nad yw mudiadau yn fodlon defnyddio’r Saesneg, mae’n amhosib iddyn nhw fancio o gwbl.”

Galw am “gynyddu darpariaeth Gymraeg’

Heddiw, fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn arwyddo siec fawr gan addo symud eu holl fusnes bancio i fanc sy’n darparu gwasanaeth Gymraeg – ac maen nhw’n galw ar eraill i wneud yr un fath.

Daw eu hymgyrch wedi i fanc yr HSBC fygwth cau cyfrifon Cymdeithas yr Iaith wedi i’r mudiad wrthod llenwi ffurflen yn Saesneg.

“Rydyn ni’n galw ar bobl a mudiadau ddefnyddio eu grym ariannol er mwyn gwella pethau yn wyneb diffyg gweithredu gan ein gwleidyddion,” meddai Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Does dim un banc yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein ar eu gwefan na thrwy gyfrwng ‘ap’ yn Gymraeg, er bod symudiad sylweddol tuag at y dull hwnnw o fancio dros bapurau a changhennau,” meddai.

“Drwy gau cynifer o’u canghennau, mae’r banciau yn gorfodi eu cwsmeriaid i ddibynnu ar y gwasanaethau bancio ar-lein. Dylen nhw fod yn cynyddu eu darpariaeth Gymraeg digidol, yn benodol datblygu system bancio ar-lein yn Gymraeg,” meddai Manon Elin.

Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal rhwng y ddau fudiad yn Uned Cymdeithas yr Iaith ar faes y Brifwyl am 2yp ddydd Mawrth.