Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys Llun: BBC
‘Radio Cymru Mwy’ fydd enw’r gwasanaeth radio newydd fydd ar gael ar-lein yn y Gymraeg o fis Medi ymlaen.

Dyna gyhoeddiad BBC Radio Cymru’r bore yma wrth ddatgelu rhagor o fanylion am gynllun peilot newydd i greu ail orsaf i Radio Cymru ar-lein.

Bydd Radio Cymru Mwy ar gael o Fedi 19 ymlaen am gyfnod o dri mis.

Mae’r orsaf dros dro yn rhan o ddathliadau’r gwasanaeth sy’n dathlu deugain mlynedd ym mis Ionawr 2017.

Ar y Post Cyntaf y bore yma nid oedd Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, yn gallu datgelu pwy fydd y cyflwynwyr newydd.

Ond, dywedodd fod arian ychwanegol ar gael i gynnal y gwasanaeth, felly “o achos yr adnoddau ychwanegol does dim rheswm i’r orsaf graidd ddioddef.”

‘Arbrofi â sioe awr ginio’

 

Bydd ‘Radio Cymru Mwy’ yn darlledu bob bore o’r wythnos waith gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth a sgyrsiau hwylus gan greu “sioe frecwast ei natur,” yn ôl Betsan Powys.

Mae disgwyl i’r orsaf gychwyn darlledu am 7yb gan barhau tan o leiaf 12pm, ac esboniodd y Golygydd eu bod yn barod i “arbrofi â sioe awr ginio.”

“Mae dyn yn fwy parod i fentro ar orsaf dros dro,” meddai.

‘Popeth i bawb’

Mae’r gwasanaeth yn pwysleisio y bydd amserlen arferol Radio Cymru yn parhau fel arfer yn ystod y cyfnod hwn.

Mi fydd Radio Cymru Mwy ar gael drwy wefan Radio Cymru, radio DAB yn y de ddwyrain, ac ar ap BBC iPlayer Radio.

Pan gyhoeddodd y BBC ym mis Mai y byddai’r gwasanaeth yn cael ei dreialu am dri mis yn unig, fe alwodd Cymdeithas yr Iaith am wneud y trefniant hwn yn un parhaol gan ddweud na all un orsaf fod yn “bopeth i bawb.”