Ar drothwy ei seremoni swyddogol gynta’ ar fore Llun prifwyl Y Fenni, roedd cyn-Archdderwydd ymhlith un o’r cynta’ i ddymuno’n dda i Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon) heddiw.

Oherwydd glaw trwm yn Nolydd y Castell, fe fydd seremoni gynta’r Orsedd i dderbyn aelodau newydd yn digwydd yn Y Babell Lên am 11 o’r gloch heddiw, yn hytrach na chadw at y drefn awyr agored yn y Cylch.

Ond roedd Robyn Lewis (y cyn-Archdderwydd Robyn Llyn) yn ei hwyliau yn dymuno’r gorau i Geraint Llifon heddiw – glaw neu beidio.

“Pob dymuniad da iti,” meddai’r Prif Lenor cynta’ i ddal swydd Archdderwydd, a hynny rhwng 2002 a 2004.