Y bwriad oedd mynd ag eisteddfodwyr o gwmpas rhai o dafarndai diddorol a difyr Y Fenni… ond lwyddodd taith Twm Morys a Frank Olding ddim ond i ymweld ag un lle yn ystod gyda’r nos Sul!

Nid bai’r trefnwyr oedd hynny, chwarae teg, waeth fe gyrhaeddodd dros 100 o bobol ar sgwâr y dre’ i ddilyn y ddau arweinydd er mwyn mynd i wahanol dai potas, clywed eu hanesion a chanu ambell i gân a cherdd.

Ond, pan gyrhaeddodd y cant dafarn gynta’r daith tua’r 6.30 o’r gloch – ar ôl bod heibio i’r castell am dro – roedd y drws ynghlo! Curwyd ar ddôr y Coach & Horses, nes cael pen gwraig y ty yn dod i’r amlwg o un o ffenestri’r llofft.

“Dydyn ni ddim yn agor tan saith o’r gloch!” meddai’r wraig, cyn dod i ddeall fod cant o eisteddfodwyr sychedig yn aros am beint ar y stryd. Daeth i lawr i weini ar y Cymry Cymraeg…

Ac fe ddaeth ei gwr hefyd – yntau o’i wely – ac yn gwisgo ei byjamas. Ac felly y buodd y gwron, yn tynnu peintiau yn ei ddillad nos, trwy’r nos, i gerddwyr prifwyl Y Fenni.

A dyna pam mai yno, yn y Coach & Horses, y buodd y criw trwy’r nos, ac mai taith un dafarn oedd taith tafarndai Y Fenni eleni!