Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir y Fflint dros y penwythnos.

Bu farw Ryan Draper, 27 oed, mewn gwrthdrawiad rhwng fan a dau gerddwr ar ffordd y B5122 ym mhentre’ Caerwys ger cyffordd 34 yr A55 yn ystod oriau mân bore Sadwrn, Gorffennaf 30.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yno, ond roedd Ryan Draper wedi marw yn y fan a’r lle. Fe gafodd dynes ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd ac yna i ysbyty Stoke.

Cafodd gyrrwr  y fan, 42 oed, ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n parhau â’u hymholiadau.