Mae ffordd yr A5 yn ardal Wrecsam wedi cau yn dilyn damwain ddifrifol.

Daeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru fod yr A5 wedi cau i’r ddau gyfeiriad rhwng yr A483 (cylchfan Halton) a’r B5070 yn Ffordd y Waun.

Mae’r ambiwlans awyr wedi glanio ar y ffordd, ac yn trin cleifion ar hyn o bryd. Mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau am beth amser.

Mae’r ciwiau traffig ar eu gwaetha’ rhwng Rhiwabon a Gobowen.