Mae dyn 51 oed wedi’i gludo mewn hofrennydd oddi ar lethrau Eryri, wedi iddo anafu’i ben-glin tra ar benwythnos stag yn yr ardal.

Fe drodd ei ben-glin ar ôl i’w droed fynd yn sownd mewn twll ar fynydd Tryfan, wrth iddo ddod i lawr gyda thri o’i gyd-gerddwyr.

Fe gafodd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen ei alw, ac fe ddaeth hofrennydd gwylwyr y glannau o Gaernarfon i’w gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Roedd yna gymaint ag wyth o ddynion yn rhan o’r grwp o dde-ddwyrain Lloegr a gychwynnodd i fyny’r mynydd, ond roedd pump ohonyn nhw wedi ail-feddwl a’i gwneud hi i lawr yn ôl wrth weld faint o ddringfa oedd hi.