Marw’r Prifardd Gwynn ap Gwilym

Diweddarwyd  


Gwynn ap Gwilym (Llun: Yr Eglwys yng Nghymru)
Torrodd y newyddion heddiw, ar drydydd dydd prifwyl Y Fenni, am farwolaeth y Prifardd Gwynn ap Gwilym. Enillodd y gadair 30 mlynedd union yn ôl, yn Eisteddfod Abergwaun.

Fe’i ganwyd ym Mangor yn 1950, ond fe’i magwyd o, ei frawd, y Parchedig Ifor ap Gwilym, a’u chwaer, y ddiweddar Lona Gwilym, ym Machynlleth. Roedd wedi bod yn ymladd canser ers rhai blynyddoedd.

Fe dreuliodd Gwynn ap Gwilym flynyddoedd yn offeiriad yn Sir Drefaldwyn, yn ardal Darowen, Glantwymyn, Llanymawddwy, Mallwyd a Llanbrynmair, cyn symud i ardal Pen-y-bont ar Ogwr  a gwneud gwaith mawr ar gyhoeddiadau Cymraeg ac ar bwyllgorau eciwmenaidd yr Eglwys yng Nghymru.

Roedd hefyd yn ysgolhaig Beiblaidd, ac fe fu’n ddarlithydd Diwinyddiaeth yn Aberystwyth.

Enillodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru yn 1983 am ei gyfrol o farddoniaeth, Grassholm, ac am awdl yn dweud stori marwolaeth raddol a chreulon ei dad o glefyd motor niwron yr enillodd Gadair y Genedlaethol, dan y testun, ‘Y Cwmwl’ yn 1986. Cyhoeddodd un nofel, Dydd Oedd A Diwedd Iddo yn 2002.

Taflodd ei het i’r cylch i fod yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd, a hynny mewn etholiad yn erbyn Selwyn Iolen a Jim Parc Nest yn 2004. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed