Roedd pafiliwn newydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn llawn fore heddiw gogyfer ag Oedfa’r Bore.

Ar y thema Gweld, Gwarchod a Gweithredu, disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw oedd yn arwain y defosiwn oddi ar lwyfan prif adeilad newydd y brifwyl.

Mae’r adeilad newydd – a ddaeth i gymryd lle’r hen bafiliwn pinc – yn dal rhyw draean yn llai o bobol (tua 2,000) ond mae ei strwythur yn golygu nad oes polion yn amharu ar olygfa neb o’r llwyfan.