Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am dystion i ddamwain angheuol ddigwyddodd yn Y Rhondda yn oriau mân bore ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 2 o’r gloch y bore ar ffordd yr A4223 ar Ffordd Nant-y-Gwyddon, Porth.

Bu farw dyn 26 oed oedd yn gyrru car Ford Fiesta lliw coch.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a welodd unrhyw beth, i gysylltu ar y rhif 101.