Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol yn y Rhondda yn oriau mân y bore, pryd y cafodd dyn ifanc ei ladd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 2 o’r gloch y bore ar Ffordd Nant-y-Gwyddon, yr A4223, yn y Porth, gan achosi marwolaeth gyrrwr Ford Fiesta coch.

Roedd y gyrrwr yn 26 oed ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad eu ffonio ar 01656 762991 neu 101 gan nodi’r rhif cyfeirio 1600287234.