(llun gan yr Eisteddfod)
Ar fore cyntaf yr Eisteddfod yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau, gobaith y trefnwyr yw y bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i’r Fenni drwy’r wythnos.

“Mae’r neges yn glir – mae croeso mawr i bawb yn Nolydd y Castell, Y Fenni,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Mae’r Maes eleni mewn lleoliad arbennig, o fewn munudau i ganol y dref, ac yn hynod o gyfleus.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i ddod draw i weld beth sydd ar y Maes, lle bydd dros fil o weithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos.”

Cefnogaeth ardderchog

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hapus a chynhyrchiol iawn i ni fel Eisteddfod wrth weithio efo gwirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Fynwy,” meddai.

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn ardderchog ac wrth i’r Maes agor ei giatiau’r bore ’ma, mae’n bleser diolch o waelod calon a thalu teyrnged i bawb a fu ynghlwm efo’r gwaith.

“Eisteddfod pobl Sir Fynwy a’r Cyffiniau ydi hon, ac mae’r trigolion wedi disgwyl yn ddigon hir i ni ymweld â’r ardal – dros gan mlynedd!  Mae’r giatiau ar agor a’r croeso yn gynnes, felly dewch draw i’n gweld yn Nolydd y Castell.”

Eleni, am y tro cyntaf, mae’r Eisteddfod yn cynnig Teithiau Tywys o’r maes, gan gychwyn o’r ganolfan ymwelwyr (y brif fynedfa) am 11.00 a 14.00 bob dydd. Mae’r teithiau’n cael eu disgrifio fel rhai addas i bawb.