Fe fydd ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael eu hannog i rannu eu profiadau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Bydd Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn cofnodi’r profiadau hynny dan y prosiect Podcastio yn Gymraeg, sydd eisoes yn cynnwys lleisiau rhai o bobl Gwent.

Mae’r podlediadau yn cynnwys cyfweliadau byrion â phobol leol yr ardal – o ddysgwyr Cymraeg i’r cerflunydd lleol, Deborah Edwards, a luniodd Coron yr Eisteddfod eleni.

Gyda’r Brifwyl yn yr ardal eleni, y bwriad yw ceisio codi proffil y Gymraeg yng Ngwent a hefyd codi proffil yr ardal drwy Gymru gyfan.

“Yn aml, bydd pobl yn ystyried Gwent fel ardal Saesneg ei hiaith, ond o grafu o dan yr wyneb, mae ‘na gymunedau Cymraeg ffyniannus yn bod yn yr ardal hon,” meddai Sian Griffiths, Prif Swyddog Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.

“Wrth i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal, rydym hefyd yn gobeithio gallu clywed barn y cyhoedd am y math o bethau hoffen nhw weld yn cael eu datblygu, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ymhellach, felly galwch heibio i rannu barn, mwynhau sgwrs a chlywed mwy am waith y fenter yn lleol.”