Tîm Cymru' dathlu llwyddiant (Adam Davy/PA)
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi taro’n ôl wedi honiadau ar wefannau cymdeithasol a gwefan BBC Wales i’r Orsedd wrthod anrhydeddu pêl-droedwyr Cymru am nad ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg.

Mewn datganiad dywed yr Eisteddfod bod trefn benodol ar gyfer anrhydeddau’r Orsedd a bod enwebiadau’n cau ar ddiwedd mis Chwefror bob blwyddyn.

“Nid oedd unrhyw un o dîm pêl droed Cymru wedi’u henwebu ar gyfer yr Orsedd eleni, ac ni chafodd unrhyw aelod o’r tîm ei wrthod,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Nid oes gan swyddogion Yr Orsedd unrhyw hawl i gyflwyno anrhydeddau y tu allan i’r system honno, ac nid yw’r Eisteddfod yn rhan o’r broses nac yn rhan o unrhyw benderfyniad a wneir gan Fwrdd yr Orsedd.

“Bydd cyfle dros y misoedd nesaf i aelodau’r Orsedd ystyried a mynd ati i enwebu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r genedl, naill ai dros gyfnod o flynyddoedd neu yn ddiweddar.  Cawn weld pwy fydd yn cael ei enwebu bryd hynny a’u hanrhydeddu yn Eisteddfod Ynys Môn y flwyddyn nesaf.”

 Gwahodd y tîm i’r Ŵyl

Mae’r datganiad yn pwysleisio bod yr Eisteddfod yn llawenhau yn llwyddiant y tîm a bod y chwaraewyr wedi cael eu gwahodd i’r Eisteddfod, sy’n agor yn Nolydd y Castell yn y Fenni heddiw.

Mae’r Brifwyl yn ymweld â Sir Fynwy am y tro cyntaf ers 1913.