Fydd Cyngor Gwynedd ddim yn difa ei wasanaeth difa pla am y tro, ond mae wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i’r uned gynhyrchu mwy o incwm i sicrhau ei dyfodol.

Mae’r gwasanaeth yn costio degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn, meddai’r Cyngor, ond mae’n “wasanaeth pwysig” i’r cyhoedd ac i ysgolion a chartrefi henoed.

“Yn wyneb yr angen i wneud arbedion ariannol ym mhob agwedd o waith y Cyngor, rhaid inni edrych yn fanwl ar bob gwasanaeth,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, sy’n Aelod Cabinet dros Gynllunio a Rheoleiddio.

“Rhaid cofio y gallai colli’r gwasanaeth olygu risgiau o ran iechyd cyhoeddus, ac felly mae’n iawn fod y Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i’w gadw.”

“Rhaid manteisio ar y gwasanaeth”

Mae’n dweud os na fydd pobol Gwynedd yn manteisio ar y gwasanaeth, mae perygl y bydd yn cael ei golli yn y dyfodol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor am ddim ar sut i daclo problemau pla ac mae’n codi tâl am eu difa.

Y creaduriaid mwyaf cyffredin y gall yr uned eu difa yw llygod mawr, llygod bach, wiwerod, chwilod, chwain ac amryw o bryfed.

“Er mwyn gosod seiliau ariannol cadarn iddo ar gyfer y dyfodol, fodd bynnag, mae’n holl bwysig fod yr uned yn cynyddu’r incwm y mae’n ei gynhyrchu am ei gwasanaethau,” ychwanegodd Dafydd Meurig.

“Mae’n hanfodol hefyd fod pobl Gwynedd yn manteisio’n llawn arno. Os na fyddan nhw’n defnyddio’r gwasanaeth  mi fyddan nhw mewn perygl o’i golli yn y dyfodol.”