Safle Wylfa
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Prydain i oedi cyn rhoi sêl bendith i adeiladu gorsaf niwclear Hinkley, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gadarnhad na fydd hyn yn effeithio ar adeiladu Wylfa Newydd ym Môn.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, mae angen “eglurder ar frys” na fydd yr oedi yn rhoi’r datblygiad ar Ynys Môn, i greu ail atomfa niwclear ar yr ynys, yn y fantol.

Mae Ken Skates wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, yn lleisio ei bryderon.

“Mae Wylfa Newydd yn brosiect seilwaith strategol a phwysig i Gymru a fydd yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel,” meddai.

“Bydd hefyd yn hollbwysig ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb pwysig o ran sicrhau bod datblygwyr allweddol fel Horizon Nuclear Power a’u cadwyn cyflenwi Haen 1 yn parhau’n hyderus i fuddsoddi yng Nghymru.”

Bwrw ymlaen cyn oedi

Neithiwr fe wnaeth Bwrdd Rheoli cwmni ynni EDF gytuno i fwrw ymlaen ag adeiladu gorsaf niwclear Hinkley yng Ngwlad yr Haf, a hynny ar ôl blynyddoedd o oedi.

Ond daeth datganiad yn gynnar wedyn gan y Llywodraeth yn dweud na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i adeiladu’r prosiect gwerth £18 biliwn tan ddechrau Hydref.

Mae undebau llafur wedi lambastio’r Llywodraeth am y penderfyniad, gan fod disgwyl creu 25,000 o swyddi fel rhan o’r datblygiad.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn “hollbwysig” na fydd adolygiad y Llywodraeth yn effeithio ar Wylfa Newydd.

“Rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro fod Cymru ar agor i fusnes, ac y bydd yn parhau i fod ar agor i fusnes, a hynny er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch canlyniad y Refferendwm Ewropeaidd,” meddai.

“Mae’n hollbwysig sicrhau nad yw unrhyw adolygiad yn amharu ar ddatblygiad pwysig Wylfa.”