Bydd pleidlais yn cael ei chynnal drwy gydol mis Awst ar ddyfodol toiledau cyhoeddus pentref bychan yn Sir Benfro.

Mae cyfrifoldeb am gynnal a chadw toiledau Maenclochog wedi cael ei drosglwyddo o ddwylo’r cyngor sir i’r cyngor cymuned, er mwyn arbed arian.

Ond mae Cyngor Cymuned Maenclochog wedi penderfynu cynnal pleidlais ar ddyfodol y bloc bach o doiledau, sy’n costio £3,000 i’w cynnal y flwyddyn.

Ar un adeg roedd y cyngor sir yn gyfrifol am 93 o doiledau cyhoeddus, ond yn 2013 fe benderfynodd cynghorwyr agau neu drosglwyddo 28 ohonyn nhw i’r cynghorau cymuned.

60 o doiledau cyhoeddus sydd yn dal i fod ar agor yn y sir ar hyn o bryd, gyda naw yn nwylo cynghorau cymuned.