Mae adroddiad annibynnol i’r cynllun dadleuol i ganiatáu codi tua 8,000 o dai newydd yng Ngwynedd a Môn, wedi casglu y byddai’r datblygu yn gostwng y ganran o siaradwyr Cymraeg yng nghadarnle ola’r iaith.

Byddai gostyngiad o tua 2% yn nifer y siaradwyr yng Ngwynedd a rhyw 3% ym Môn, yn ôl yr adroddiad gan yr ymgynghorydd iaith Huw Prys Jones. Fe gafodd ei gyflogi gan fudiadau iaith i edrych ar effaith y codi tai, wedi iddyn nhw fynegi anfodlonrwydd gydag asesiad iaith y cynghorau sir.

Mae pryderon nad ydy’r cynghorau sir lleol wedi mesur gwir effaith y codi tai ar yr iaith, gydag awduron, cerddorion a dramodwyr yn ymuno gyda’r ymgyrchwyr iaith i bwyso am ailystyried y niferoedd o dai newydd y dylid caniatau.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 65% o bobl Gwynedd yn medru Cymraeg, cwymp o 4% ar ffigwr 2001. Ond mae’r cyngor sir, drwy ei fenter iaith Hunaniaith, wedi gosod y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i 70% erbyn 2021.

Ym Môn wedyn, mae 57% yn medru’r Gymraeg yn ôl y Cyfrifiad diwethaf. Erbyn hyn Gwynedd a Môn yw’r unig ddwy sir gyda mwyafrif yn siarad yr iaith.

Mae cynghorau Môn a Gwynedd wedi bod yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol ers dros bum mlynedd.

Pwrpas y Cynllun yw nodi tir ar gyfer caniatáu codi 3,800 o dai ym Môn a 4,200 yng Ngwynedd.

Tra bod ymgyrchwyr iaith yn bendant y bydd codi gormod o dai yn arwain at fewnlifiad a gwanychu sefyllfa’r Gymraeg, mae cynllunwyr y cynghorau yn bendant bod miloedd o dai newydd am fywiogi cymunedau a hybu’r iaith Gymraeg.

Mewnfudo – da neu ddrwg?

Yn eu hasesiad o effaith y tai ar yr iaith, mae Cyngor Gwynedd yn proffwydo na fydd cynnydd yn y boblogaeth leol dros y 15 mlynedd, ac mai mewnfudwyr fydd yn achosi twf poblogaeth o 2,215 yn y sir.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud mai effaith y mewnlifiad hwn fydd troi siaradwyr Cymraeg yn leiafrif yng Ngwynedd erbyn 2026.

Ond yn ôl ‘asesiad effaith ieithyddol’ cynghorau Môn a Gwynedd o’u Cynllun Datblygu Lleol, fe fydd yn ‘[c]efnogi bywiogrwydd cymunedol drwy ddarparu tai, cyfleusterau a gwasanaethau yn lleol lle bo’u hangen, a rhai sy’n hygyrch trwy amrywiaeth o ddulliau cludiant. Yn ei dro, dylai hyn hyrwyddo cadw’r boblogaeth frodorol, ac felly’r defnydd o’r iaith Gymraeg’.

O ran y mewnlifiad, mae awduron asesiad y cynghorau yn casglu ‘nad yw’r polisïau manwl fel yr amlinellir hwy yn y Cynllun… yn debygol o achosi cynnydd/gostyngiad poblogaeth sylweddol a allai effeithio ar gydbwysedd siaradwyr Cymraeg/ Saesneg’.

Ond mae asesiad Huw Prys Jones yn mynd yn groes i farn y cynghorau sir.

“Ymddengys fod y twf poblogaeth arfaethedig fwy neu lai’n gyfan gwbl ddibynnol ar fewnfudo o’r tu allan i’r ddwy sir,” meddai’r ymgynghorydd iaith.

“Gan dderbyn y posibilrwydd y gallai mwyafrif y tai newydd mewn ardal benodol gael eu prynu gan bobl leol, mae tai eraill wedyn yn debygol o fynd yn wag o ganlyniad a’r rheini wedyn yn cael eu gwerthu i fewnfudwyr di-Gymraeg.

“Mae patrwm newidiadau poblogaeth ac iaith dros y degawdau diwethaf yn awgrymu tueddiad o boblogaeth gynhenid yn gadael a phobl o’r tu allan, y mwyafrif ohonynt o’r tu allan i Gymru, yn symud i mewn; nid yw’r cynllun yn cynnig tystiolaeth pam y dylai darparu mwy o dai newid y tueddiad hwn.

“O gymryd popeth i ystyriaeth, amcangyfrifir y gallai’r cynnydd poblogaeth ynddo’i hun arwain at ostyngiadau o tua 2-2.5% yn y ganran o bobl sy’n siarad Cymraeg yng Ngwynedd a thua 2.5-3.5% ym Môn.”

Bwriad y mudiadau iaith yw cyflwyno asesiad annibynnol Huw Prys Jones i’r Arolygwyr fydd yn archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol fis Medi.