Alun Davies
Mae Llywodraeth Cymru eisiau “dechrau sgwrsio â phobol” er mwyn trafod sut i wireddu’r addewid o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Ar hyn o bryd, yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 562,000 yn medru’r iaith.

Yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai roedd y Blaid Lafur yn son am ddyblu’r nifer erbyn 2050.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Golwg ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg wedi dweud bod y gwleidyddion eisiau clywed syniadau gan y cyhoedd am sut i wireddu’r addewid maniffesto.

“Dw i ddim eisio cyrraedd y targed trwy ddysgu pobol [i ddweud] tipyn o eiriau, heb yn wir gyrraedd y targed o greu siaradwyr Cymraeg,” meddai Alun Davies, AC Blaenau Gwent.

“Dw i eisio miliwn o bobol yn siarad y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg ac yn gyfforddus yn y Gymraeg. Miliwn o bobol lle mae’r Gymraeg yn rhan o’u bywyd bob dydd.”

Fe fydd yn lansio’r “sgwrs” ddydd Llun ar Faes yr Eisteddfod er mwyn “arwain y drafodaeth [ar] sut ydan ni fel cenedl, fel cymuned ac fel cymdeithas yn mynd i newid safle’r Gymraeg yn y dyfodol”.

Yn ôl y Gweinidog, nid mater i wleidyddion yn unig yw adfer iaith sy’n colli tir.

“Tydi hynny ddim yn rhywbeth gall gweinidog o unrhyw fath wneud. Mae’n rhywbeth rydan ni’n penderfynu bod ni eisio gwneud fel cenedl. A dyna bwrpas cael y drafodaeth.

“Beth dw i ddim eisiau gwneud ar ddydd Llun yr Eisteddfod ydy dweud ‘dyma’r dyfodol’ gyda llywodraeth a gweinidogion yn gwybod bob dim ac ni sydd am wneud hyn.

“Na, mae’n dasg i ni fel cenedl i ddefnyddio’r Gymraeg, dim jest tasg i weinidogion ydi hi. Ond trwy ddweud hynny, dw i ddim yn dweud nad oes gennym gyfrifoldeb chwaith.”

Nôl yn 2013 ar Faes Eisteddfod yr Urdd roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn lansio “sgwrs genedlaethol” am ddyfodol y Gymraeg.

‘Mwy yn siarad Cymraeg’

Ddechrau’r mis daeth y dystiolaeth ddiweddaraf am ddirywiad yr Iaith Gymraeg i’r fei. Mae ffigyrau rhwng-Cyfrifiad cynghorau sir yn dangos gostyngiad yng nghanrannau’r siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd yng Ngheredigion, Gwynedd a Môn.

Ond nid yw Alun Davies yn derbyn bod yr iaith ar drai.

“Mae yna fwy o bobol yn gwylio S4C nawr nag ydan ni wedi gweld ers degawd, a hefyd rydan ni’n gweld fwy o ddefnydd o’r Gymraeg nag ydan ni wedi gweld ers amser. Ac rydan ni’n gweld pobol yn defnyddio’r Gymraeg.

“Mi oedd yna adeg pan oedd pobol yn derbyn addysg Gymraeg yn y Cymoedd a Chaerdydd a dim ond yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol a’r dosbarth.”

Mwy gan Alun Davies yn y rhifyn estynedig, eisteddfodol o gylchgrawn Golwg.