Mae barnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain yn dweud “bod yna resymau tros bryderu am les” dynes 21 oed o Abertawe, sy’n dweud ei bod yn cael ei charcharu gan ei thad yn Sawdi Arabia.

Cafodd Amina Al-Jeffery ei magu yn Abertawe ac mae ganddi ddinasyddiaeth ddwbl ym Mhrydain ac yn Sawdi-Arabia.

Mae’n dweud bod ei thad, Mohammed Al-Jeffery, sy’n academydd wedi ei chaethiwo am ei bod wedi “cusanu dyn.”

Mae cyfreithwyr sy’n ei chynrychioli wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn ei thad yn Llundain ac wedi gofyn i’r Ustus Holman ystyried ffyrdd o’i diogelu.

Mae’r barnwr yn edrych ar yr achos mewn gwrandawiad cyhoeddus yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Cyfaddef ei chloi mewn fflat

Yn ôl yr Ustus Holman, mae’r achos yn un difrifol iawn ac nad oedd Mohammed Al-Jeffery, sydd yn ei 60au, yn edrych ar y sefyllfa drwy’r “persbectif cywir.”

Mae posibilrwydd, meddai, bod y ferch yn ceisio camddefnyddio’r sefyllfa, ond bod ei thad wedi cyfaddef ei fod wedi cloi ei ferch yn y fflat pan roedd e wedi gadael.

Roedd Mohammed Al-Jeffery wedi cyfaddef hefyd o blethu dur ar y ffenestri er mwyn atal Amina rhag gweiddi ar bobol y tu allan.

“Dw i’n teimlo y dylwn ni – y wlad hon, y llys hwn – deimlo’n bryderus iawn dros les y dinesydd Prydeinig hwn,” meddai’r dyfarnwr.

Dywedodd fod y tad yn atal ei ferch rhag mynd i’r Swyddfa Conswl Prydeinig yn Jeddah.

Symud i Sawdi Arabia

Roedd Amina Al-Jeffery wedi gadael Abertawe ac wedi symud i Sawdi-Arabia gyda’i theulu pedair blynedd yn ôl.

Erbyn hyn, mae ei mam a’i brodyr a chwiorydd bellach yn ôl yn ne Cymru.

Doedd y tad na’r ferch ddim yn yr Uchel Lys i wrando ar y gwrandawiad.