Mae cynnydd o 4% wedi bod yn nifer y bobol sy’n gorfod sefyll ar drenau yng Nghaerdydd yn ystod awr frys y bore, yn ôl ffigurau swyddogol.

Yn ôl y ffigyrau gan yr Adran Drafnidiaeth, mae 12% o deithwyr trên yng Nghaerdydd yn gorfod sefyll yn ystod eu siwrne i’r gwaith ac mae 11% hefyd yn gorfod sefyll ar y ffordd adref.

O’i gymharu a’r adroddiad diwethaf yn 2011, mae cynnydd o 4% yn nifer y teithwyr sy’n gorfod sefyll ar eu ffordd i’r gwaith yng Nghaerdydd a cynnydd o 3% ar y ffordd adref.

Ond mae pethau’n lawer yn Llundain gyda tua traean o deithwyr yn gorfod sefyll ar wasanaethau i Blackfriars, Waterloo, Heol Fenchurch a Moorgate.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad nad yw trenau’n gallu ymdopi â lefelau cynyddol o deithwyr sydd wedi dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Meddai Llywodraeth y DU ei fod yn buddsoddi £40 billion mewn rheilffyrdd ddylai weld 3,700 o gerbydau ychwanegol erbyn 2019.

Dywedodd yr undeb gyrwyr trenau ASLEF bod y ffigyrau’n dangos nad yw preifateiddio’r rheilffyrdd wedi gweithio ac nad ydyn nhw wedi eu synnu gan yr adroddiad.