Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i swyddog ddefnyddio gwn Taser ar ddyn yn ystod digwyddiad yn Llandudno neithiwr

Mae’r dyn 24 oed yn cael triniaeth am anaf i’w ben yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad domestig yn Ffordd Bryniau, Llandudno tua 10.15yh nos Fercher, 27 Gorffennaf yn dilyn adroddiadau bod dyn lleol gyda chyllell yn ei feddiant.

Yn ystod gwrthdaro gyda swyddogion yr heddlu cafodd gwn Taser ei ddefnyddio ac fe syrthiodd y dyn gan anafu ei ben.

Cafodd ei drin gan swyddogion a pharafeddygon ar y safle a’i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Ond yn ystod y nos roedd ei gyflwr wedi gwaethygu ac mae bellach yn cael triniaeth yn ysbyty Stoke.

Comisiwn Cwynion Annibynnol 

Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyfeirio’r mater at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jason Devonport: “Rydym yn deall bod aelodau o’r cyhoedd yn Bryniau Court, oddi ar Ffordd Bryniau, wrth i swyddogion gyrraedd y lleoliad.

“Rwy’n erfyn ar unrhyw dystion i’r digwyddiad i alw heddlu ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod U111039.”