Y Daily Post
Mae aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yng ngogledd Cymru yn gweithredu heddiw yn erbyn diswyddiadau ym mhapur newydd y Daily Post.

Mae staff y Daily Post, ynghyd â gweithwyr eraill ar ddau bapur newydd yn Newcastle, yn protestio yn erbyn diswyddiadau, llwyth gwaith a’r “bygythiad” i newyddiaduraeth o ansawdd.

Cwmni Trinity Mirror sy’n berchen ar y papurau newydd, ac mae’r NUJ yn dweud bod yr ail-strwythuro sy’n digwydd o fewn y cwmni yn “gylch o ofid”.

Mae’n debyg bod yr aelodau yn cynnal cyfarfodydd dwy awr o hyd yn erbyn y newidiadau a fydd yn “aflonyddu” gwaith y papur.

Bydd papurau newydd o ardal Lerpwl, dan berchnogaeth Trinity Mirror, yn gweithredu fory hefyd.

Mae’r Trinity Mirror wedi dweud ei fod yn “siomedig” â’r penderfyniad i weithredu ac mai “newidiadau bychan ond hanfodol” yw’r rhain.

“Effeithio ar safon newyddiaduraeth”

“Mae aelodau’r NUJ yng nghanolfannau Trinity Mirror yng ngogledd Cymru a Newcastle yn gweithredu’n ddiwydiannol heddiw, am fod pryderon wedi codi am y newidiadau diweddar yn ein hystafelloedd newyddion,” meddai datganiad yr undeb.

“Mae’r newidiadau hyn, ynghyd â’r ffaith ein bod bellach yn gweithio mewn amgylchedd sy’n cael ei yrru gan ffigurau, yn effeithio ar ein gallu i gynhyrchu newyddiaduraeth o safon uchel yn ein papurau newyddion a’n gwefannau, ac ar ein gallu i wasanaethu ein darllenwyr a’n cymunedau.”

Yn ôl y datganiad, “nid ar chwarae bach” y penderfynodd y newyddiadurwyr i weithredu ond eu bod yn teimlo ei bod bellach yn “angenrheidiol” iddynt wneud hynny yn sgil y pryderon.

Cael gwared ag wyth swydd

Mae Trinity Mirror wedi cyhoeddi y gallai gael gwared ag wyth swydd yn y Daily Post, gan gynnwys ei unig ohebydd yng Nghynulliad Cymru. Mae Aelodau Seneddol wedi llofnodi cynnig yn “gresynu” at y cyhoeddiad.

Ond mae’r cwmni wedi dweud y bydd chwe swydd newydd yn cael eu creu o fewn y papur newydd, fel rhan o’r broses ail-strwythuro.

Ymateb Trinity Mirror

“Rydym wedi’n siomi bod yr NUJ yng ngogledd Cymru wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol dros newidiadau bychan ond hanfodol sy’n hollbwysig i ddatblygu ein brandiau newyddion,” meddai llefarydd ar ran Trinity Mirror.

“Rydym wedi bod yn agored ac yn hygyrch gyda’n timau golygyddol a’r NUJ wrth egluro’r newidiadau, yn ateb pryderon ac yn sicrhau ein bod yn creu ystafell newyddion sy’n gweithio mor effeithiol â phosib. Mae’r broses ymgynghori yn dal i barhau yng ngogledd Cymru.

“Does neb yn poeni mwy am gyflwr ein cyfryngau rhanbarthol yn fwy ‘na ni. Ar y raddfa mae’r diwydiant yn newid, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein brandiau newyddion yn gallu addasu ar gyfer y dyfodol.”