Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Liam Fox, chwith, a'r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson Llun: Anthony Devlin/PA Wire
Mae Plaid Cymru wedi galw am bolisi tramor ar wahân i Gymru gan ddweud bod Boris Johnson a Liam Fox gyda’i gilydd yn “beryglus”.

Dylai tîm o ddiplomyddion sy’n atebol i Lywodraeth Cymru gael ei sefydlu er mwyn atal yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson rhag siarad dros y wlad, yn ôl Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd materion allanol y Blaid, Steffan Lewis AC, hefyd y dylid sefydlu “gweinidogaeth ar gyfer materion rhyngwladol” sy’n atebol i  Lywodraeth Cymru mewn ymgais i atal San Steffan rhag cael y dylanwad mwyaf dros drafodaethau Cymru ar draws y byd.

Ond dyw Cymru ddim mewn lle da i fargeinio wedi i’r mwyafrif o bleidleiswyr y wlad gefnogi Brexit gyda 52.5% o blaid gadael a 47.5% am aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

O’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru fe wnaeth 17 gefnogi Brexit er gwaetha’r ffaith fod Cymru’n cael arian gan yr Undeb Ewropeaidd i gyllido nifer fawr o brosiectau.

‘Angen seilwaith newydd’

Meddai Steffan Lewis y byddai enw da’r DU dros y byd yn cael ei “niweidio” gyda Boris Johnson yn Ysgrifennydd Tramor tra byddai masnach o Gymru “ar drugaredd” yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Liam Fox.

Ychwanegodd Steffan Lewis fod “angen seilwaith newydd ar gyfer polisi tramor Cymreig wedi’i gefnogi gan weinidogaeth newydd ar gyfer materion rhyngwladol ar lefel Llywodraeth Cymru.

“Mae yna gynsail i lywodraethau is-wladwriaethiau yn cael chwarae rhannau o bwys byd-eang fel Quebec yng Nghanada a Fflandrys yng Ngwlad Belg,” meddai.