Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf (Llun: Richard Baker CCA 2.0)
Mae disgwyl i’r cwmni ynni, EDF, wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â phrosiect gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point heddiw, fydd werth £18 biliwn.

Bydd bwrdd rheoli’r cwmni o Ffrainc yn cyfarfod ym Mharis ac mae disgwyl iddo gymeradwyo’r cynllun i adeiladu gorsaf niwclear cyntaf y DU ers cenhedlaeth.

Mae disgwyl i’r prosiect yng Ngwlad yr Haf greu 25,000 o swyddi, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud mai “nonsens” yw hyn, gan nad oes gan weithwyr Prydain y sgiliau i weithio mewn lle o’r fath ac felly, y byddai swyddi’n mynd at bobol dramor.

Mae mudiad PAWB – Pobl Atal Wylfa B – sy’n gwrthwynebu adeiladu ail atomfa niwclear ar Ynys Môn wedi galw am ystyried ynni adnewyddol yn lle.

Mae’r mudiad wedi dweud wrth golwg360 hefyd na fydd y penderfyniad heddiw yn helpu datblygiad Wylfa Newydd naill ffordd na’r llall.

Saith mlynedd yn hwyr

Os bydd y cynllun yn cael sêl bendith, bydd disgwyl i’r orsaf gynhyrchu 7% o drydan y DU drwy gydol ei oes o 60 mlynedd, gan agor yn 2025.

Mae ’na oedi o saith mlynedd wedi bod cyn dechrau’n cynllun, gyda’r penderfyniad wedi’i ohirio 12 gwaith ar sail rhesymau ariannol.

Gyda Llywodraeth Ffrainc yn berchen ar 85% o EDF, mae undebau llafur Ffrainc wedi rhybuddio y gallai dechrau ar y gwaith, olygu diwedd y cwmni yn gyfan gwbl.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd yn talu £92.50 i EDF am bob awr o fegawat o ynni y mae’n cynhyrchu.

Mae disgwyl i Gorfforaeth Pŵer Niwclear China, fuddsoddi 33.5% yn y prosiect hefyd.

‘Ynni adnewyddol yn datblygu ar garlam’

Yn ôl mudiad PAWB, mae gorsafoedd ynni niwclear yn cymryd rhy hir i’w hadeiladu ac yn rhy ddrud, a dywed mai ynni adnewyddol yw’r ffordd ymlaen.

“Hyd yn oed os bydd ‘na gyhoeddiad bod nhw’n mynd i fwrw ‘mlaen, mae cymaint o rwystrau yn eu hwynebu nhw (EDF), gallan nhw gymryd tair blynedd cyn tywallt unrhyw goncrid ar y safle,” meddai Dylan Morgan o’r mudiad wrth golwg360.

“Yn y cyfamser, mae ffynonellau ynni adnewyddol yn datblygu ar garlam ac mae’u prisiau nhw’n dod lawr. Maen nhw’n gyflymach i’w hadeiladu ac maen nhw’n cyflwyno buddion i’r amgylchedd yn syth.

“Mae’r heriau sy’n ein hwynebu ni am faterion newid hinsawdd, ry’n ni angen atebion yn gyflym a dyw niwclear ddim yn ateb cyflym.

“Mae’n rhaid i bob lefel o lywodraeth, San Steffan, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol gefnu ar y teyrngarwch cibddall ‘ma bod rhaid cael ynni niwclear.”

Undebau llafur yn “hunanol”

Mae undebau llafur Prydain wedi galw ar EDF i barhau â’r cynllun, gan ddweud bod gweithwyr yma yn barod “â chaib â rhaw” i ddechrau ar y gwaith.

Ond “gweithred hunanol” yw hyn, yn ôl Dylan Morgan, sy’n dweud bod yr undebau yn meddwl am eu “ffynhonnell aelodaeth” yn unig.

Cyfeiriodd at enghraifft adweithydd niwclear Diablo Canyon yng Nghaliffornia, lle mae’r atomfa bellach wedi cau ond bod y safle’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu canolfan ynni adnewyddol.

“Dyna’r ffordd ymlaen a dyna sut ddylai’r undebau unllygeidiog, ceidwadol yma sydd gennym ni yng ngwledydd Prydain edrych ar gynhyrchu trydan i’r dyfodol a pheidio bod mor hen-ffasiwn,” meddai.

Wylfa

Doedd Dylan Morgan hefyd ddim yn credu y byddai rhoi sêl bendith i Hinkley Point yn helpu cynllunwyr Wylfa Newydd ar Ynys Môn chwaith, gan ddweud nad oes gan gwmni Horizon lais yn y mater.

“Dyw e ddim yn mynd i wneud pethau’n haws (i Wylfa Newydd), y realiti yw mai pyped yw Horizon, does ganddyn nhw ddim grym.

“Mae unrhyw benderfyniad i fuddsoddi yn mynd i gael ei wneud yn Japan a Japan yn unig,” meddai, gan gyfeirio at y cwmni mawr sydd y tu ôl i’r cynllun, Hitachi, sydd wedi methu â chael cefnogaeth ariannol llywodraeth Japan hyd yn hyn i adeiladu Wylfa Newydd.

EDF

Cyn gwneud y penderfyniad, dywedodd EDF: “Mae Hinkley Point C yn ased unigryw i ddiwydiant Ffrengig gan y byddai o fudd i’r holl ddiwydiant niwclear ac yn cefnogi gwaith o fewn cwmnïau mawrion a mentrau llai yn y sector hwn.”