Emma Baum Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Fe gafodd cwest i farwolaeth mam ifanc o Benygroes, Caernarfon, ei agor a’i ohirio heddiw.

Cafwyd hyd i gorff Emma Baum, 22, yng ngardd gefn ei chartref yn Ffordd Llwyndu, ddydd Llun, 18 Gorffennaf.

Mae’r crwner bellach yn aros am yr adroddiad post mortem i’w marwolaeth i barhau â’r cwest.

Ymddangosodd David Nicholas Davies, 25, o Glynnog Fawr, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Emma Baum, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa tan ddyddiad nesaf ei achos, sef 10 Hydref, lle mae disgwyl iddo gyflwyo ple  i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.