Band Pres Llareggub yn rhan o berfformiad stryd Llun: Kristina Banholzer
Ar ‘daith theatrig’ rhwng pedair tref, bu 40 o bobol ifanc yn defnyddio strydoedd gogledd Cymru i greu celf a pherfformiadau theatrig mewn un diwrnod.

Roedd digwyddiad Ar y Stryd yn Llandudno, Caernarfon, Biwmares a Phorthaethwy ddydd Mawrth, dan gynllun cwmni theatr Frân Wen.

Roedd y daith yn mynd i’r afael â digartrefedd a’r argyfwng ffoaduriaid, dau bwnc oedd yn “gwylltio’r” artistiaid ac a oedd wedi’u cyflyru i’w dehongli drwy gelf.

Bu Band Pres Llareggub a’r bîtbocsiwr, Mr Phormula, yn rhan o’r digwyddiad hefyd.

Yn ôl Gwennan Mai Jones o’r Frân Wen, roedd y grŵp wedi gweithio gyda chwe artist proffesiynol dros chwe wythnos i “greu perfformiad gwreiddiol sy’n cyfuno cerddoriaeth, theatr a chelf.”

“Ar gychwyn y broses gofynnwyd iddynt beth oedd yn eu gwylltio ar y funud a’r ddau beth ddaeth i’r amlwg oedd digartrefedd ac argyfwng ffoaduriaid – yr holl sefyllfa a sut, fel cymdeithas, rydym yn cael ein dylanwadu i anwybyddu’r bobl fregus,” ychwanegodd.

Gweithio gydag elusen

Roedd y prosiect wedi cydweithio ag elusen ffoaduriaid Pobl i Bobl i ddysgu am y problemau presennol, gyda’r grŵp yn penderfynu’n “fuan iawn” y dylai’r perfformiad fod yn rhai awyr agored.

”Mae’r tîm ifanc wedi dangos aeddfedrwydd ym mhob agwedd o’u gwaith – o ddelio gyda materion sensitif iawn i greu pedwar perfformiad proffesiynol,” meddai’r actor Iwan Fôn, 23, o Garmel, ger Caernarfon.

“Drwy weithio ochr yn ochr â Band Pres Llarreggub, y dylunydd gwisgoedd Sarah Hendy o Ynys Manaw a’r bîtbocsiwr Mr Phormula, crëwyd argraff fawr ar bawb welodd y perfformiadau.”

Fe ddaeth y digwyddiad i ben gyda pharti ym Mhorthaethwy gyda cherddoriaeth byw, perfformiadau theatr, coffi a pizza ffres, stondinau vintage a gwerthwyr Big Issue wrth law.