Mae dynes o’r Barri wedi cael ei charcharu am wneud dros 400 o alwadau i’r Gwasanaeth Ambiwlans yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fe wnaeth Mariette Mcharg, o Gerddi Caernarfon, y Barri, ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar nifer o gyhuddiadau, oedd yn cynnwys ymosod ar blismon ac ymosod ar ddau nyrs.

Roedd hi wedi galw’r Gwasanaeth Ambiwlans drwy’r rhif argyfwng, 999, 408 o weithiau mewn dwy flynedd.

Roedd hi hefyd wedi bod yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru 59 o weithiau, gan dreulio 372 o oriau yno.

Ar ben hynny, bu’n  Uned Gwenwyn Llandochau 55 o weithiau ac wedi ffonio’r meddyg y tu allan i oriau 127 o weithiau.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans ei fod wedi treulio 356 o oriau yn rheoli eu galwadau, sydd wedi costio’r dreth dalwr £78,000.

Roedd ei gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi costio £94,611 yn ychwanegol.

24 wythnos o garchar

Cafodd y ddynes 54 oed ei herlyn dan y Ddeddf Gyfathrebu, ac yn y llys ddydd Mawrth, cafodd ei dedfrydu i 24 wythnos o garchar.

Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans, bu “cynnydd yn ei hymddygiad” a arweiniodd at benderfyniad y gwasanaeth i fynd â hi i’r llys.

“Rydym yn croesawu’r dyfarniad gan ein bod ond yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn pobol sy’n galw’n aml os mai dyna’r opsiwn olaf,” meddai Robin Petterson, Swyddog Cymorth Clinigol y gwasanaeth yng Nghaerdydd a’r Fro.

“Pan fydd ein hadnoddau yn cael eu defnyddio, heb angen, ar gyfer unigolion fel hyn, gall gael effaith sylweddol ar y gwasanaethau y mae pobol Cymru yn dibynnu arnyn nhw.”

“Cydnabod anghenion cymhleth”

“Rydym yn cydnabod bod gan rai pobol sy’n galw’n aml anghenion cymhleth,” ychwanegodd.

“Ond, yn yr achos hwn, fe wnaethom dreulio cryn dipyn o amser yn gweithio gydag asiantaethau i ddarparu mwy o gymorth a chyngor iddi, er mwyn iddi gael gwasanaeth priodol.

“Yn anffodus, er gwaetha’r ymdrechion i gydnabod ei hanghenion, bu cynnydd yn ei hymddygiad a arweiniodd atom yn cymryd camau cyfreithiol fel y rhwystr olaf.

“Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu ein gwasanaeth gwerthfawr ar gyfer y sefyllfaoedd gwirioneddol hynny sy’n bygwth bywyd.”