Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 Llun: PA
Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith i ofyn eglurder ynglŷn â’i hamcangyfrif o’r gost i gynnal Gemau’r Gymanwlad ymhen deng mlynedd.

Dywedodd Ken Skates ddoe bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd yn fanwl ond bod “ansicrwydd ariannol presennol” yn sgil pleidlais Brexit yn golygu nad oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i gynnig cynnal y Gemau yn 2026.

Mewn llythyr gan lefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon a Thwristiaeth, mae Neil McEvoy yn  gofyn pam bod Llywodraeth Cymru yn tybio y byddai Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru yn costio mwy na dwbl yr hyn gostiodd y Gemau yn Glasgow yn 2014.

Ond mae Ken Skates yn mynnu bod y “ffigurau wedi’u seilio ar asesiad cadarn o gyfanswm cost.”

Daw llythyr Neil McEvoy yng ngoleuni datganiad a gyhoeddwyd gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad sydd yn codi cwestiwn difrifol ynghylch y modd mae’r Llywodraeth wedi amcangyfrif cost o £1.3 biliwn i gynnal y Gemau.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn “pathetig”.

Gemau’n ‘werth £740 miliwn i’r economi’

Yr Alban oedd y diwethaf o wledydd y DU i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2014 ac roedd adroddiad swyddogol yn dilyn y digwyddiad yn amcangyfrif bod y gemau yn werth £740 miliwn i’r economi.

Mae galwadau cynyddol wedi bod yn ddiweddar i Gymru roi ei henw ymlaen i gynnal y Gemau, gydag athletwr Paralympaidd Tanni Grey-Thompson yn un sydd wedi lleisio ei chefnogaeth i’r syniad.

Wrth ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, dywedodd Neil McEvoy ei fod yn “siomedig iawn” yn enwedig gan fod y penderfyniad wedi dod “wythnosau yn unig wedi i Gymru ddwyn sylw Ewrop gyda’n tîm pêl-droed rhyfeddol a’u cefnogwyr ardderchog”.

Mae hefyd yn holi pam bod y Llywodraeth yn amcangyfrif y byddai cynnal y gemau’n costio £1.3 biliwn pan oedd y gemau yn Glasgow wedi costio £32 miliwn yn llai na’r gyllideb o £543 miliwn.

Ychwanegodd ei fod eisiau eglurder ynglyn a’r modd y cafodd y gemau eu costio.

‘Gwarth a siom’

Meddai:  “Mae’n siom enbyd nad oes gan Lafur yr uchelgais i wneud cais am Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru. Unwaith eto, mae Cymru wedi cael tro gwael gan bobl sydd heb yr awydd na’r uchelgais i’n hyrwyddo ni ar lefel genedlaethol.

“Mae hyn yn warth ac yn siom, yn enwedig yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn gynharach y mis hwn.”

‘Diffyg uchelgais’

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, oedd hefyd wedi cefnogi’r cais,  bod y penderfyniad yn un “pathetig”.

Meddai: “Mae’n pathetig fod Llywodraeth Cymru unwaith eto’n ceisio defnyddio Brexit fel llen fwg i guddio diffyg uchelgais a dychymyg.

“Ar ôl dathlu llwyddiant chwaraeon Cymru dros yr haf mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awr yn rhoi’r gorau i’w chefnogaeth.

“Yn amlwg byddai’r cais wedi costio’n fawr, ond dros gyfnod estynedig byddai’r manteision economaidd, cymdeithasol a chwaraeon i Gymru wedi bod yn enfawr.

“Mae hwn yn ddiwrnod trist i chwaraeon yng Nghymru.”

‘Adolygiad llawn a manwl’

Dywedodd Gemau’r Gymanwlad Cymru, a oedd wedi gweithio ar yr astudiaeth ddichonoldeb, eu bod nhw hefyd wedi eu siomi gan y penderfyniad.

Dywedodd y cadeirydd Helen Phillips: “Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i baratoi beth oedd yn adolygiad llawn a manwl o ymarferoldeb a fyddai wedi arwain at gais cymhellgar.

“Er gwaethaf y penderfyniad hwn, rydym yn gobeithio y gall rhai o’r manteision a gynlluniwyd ar gyfer Cymru gyfan barhau i gael eu cyflawni o dan weledigaeth Creu Cymru Egnïol a bod y gwaith sydd wedi cael ei gynnal yn cael ei ddefnyddio i lywio cais yn y dyfodol.”

Fodd bynnag, dywedodd Helen Phillips ei bod yn deall rhesymau’r Llywodraeth o ystyried yr ansicrwydd economaidd diweddar.

‘Siomedig’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, fe ddywedodd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, ei fod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad.

“Fi’n credu bod pawb yn siomedig, mae hyd yn oed y bobol sydd wedi gwneud y penderfyniad (i beidio cynnal y gemau) yn siomedig, does dim doubt am hynny,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n siom i ni gyd, dw i ddim yn credu y byddai unrhyw un yng Nghymru ddim am weld Gemau’r Gymanwlad yn dod yma.

“Ond fi’n credu bod rhaid cael synnwyr cyffredin i ddeall pam, mae lot o bobol sy’n gwybod yn well ‘na fi am y rhesymau, dydyn ni ddim am fod mewn dyled am flynyddoedd i ddod.”

‘Asesiad cadarn o gyfanswm cost’

Dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith Ken Skates bod y “ffigurau wedi’u seilio ar asesiad cadarn o gyfanswm cost.”

Meddai bod y gost gafodd ei hamcangyfrif yn cynnwys y cyfleusterau chwaraeon a seilwaith ychwanegol fyddai angen eu hadeiladu, gwaddol y Gemau a’r arian fyddai angen wrth gefn.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru’n deall bod cost gemau Glasgow yn canolbwyntio ar weithredu’r digwyddiad bythefnos o hyd yn unig.

Meddai Ken Skates: “Nid yw Plaid Cymru’n cymharu tebyg at ei debyg. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Gemau’r Gymanwlad Cymru ar hyn ac mae ein ffigurau wedi’u seilio ar asesiad cadarn o gyfanswm cost y ddarpariaeth.

“Ar hyn o bryd mae strategaeth economaidd Plaid Cymru yn ymddangos fel eu bod am gynnal unrhyw brosiect, waeth beth yw’r gost neu werth am arian a heb unrhyw graffu ar y manteision hirdymor i Gymru. Mae angen iddynt fod yn ddifrifol a datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb.

“Bydd ein ffocws fel Llywodraeth yn parhau i fod ar gefnogi ein heconomi a chyflawni dros bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru yn ystod y cyfnod ansicr hwn .”