Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Bydd yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Owen Smith yn cyhoeddi heddiw ei gynlluniau i benodi gweinidog ar lefel cabinet i ddarparu mwy o gydraddoldeb yn y gweithle.

Mewn arwydd clir o’i fwriad i newid cyfeiriad o gyfnod Llafur Newydd, mae disgwyl i AS Pontypridd ddweud y byddai’n canolbwyntio ymdrechion y blaid i frwydro am “ganlyniadau mwy cyfartal” i bawb.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Owen Smith feirniadu Jeremy Corbyn a Tony Blair am beidio â bod yn ddigon radical ac mae wedi galw ar y blaid i fod yn fwy beiddgar.

Mewn araith yn Orgreave, Swydd Efrog ddydd Mercher – safle gwrthdaro mawr rhwng yr heddlu a glowyr yn ystod streic y glowyr yn 1984 – bydd yn tynnu sylw at bryder cynyddol pobl am faterion yn y  gweithle fel cytundebau dim oriau a’r bwlch cyflog cynyddol rhwng penaethiaid cwmnïau a gweithwyr.

‘Cyflogaeth deg’

Mae adroddiadau seneddol diweddar hefyd wedi codi pryderon am y ffordd mae cwmnïau mawr fel  Sports Direct a BHS yn cael eu rheoli gan bobl gyfoethog.

Bydd Owen Smith yn amlinellu ei weledigaeth am ddyfodol o “drethi teg, cyflogaeth deg a chyllid teg” gan addo cyflwyno gwell hawliau gweithwyr a sicrhau bod Prydain yn “arweinydd byd ar gyfer tâl ac amodau”.

Os bydd yn llwyddo i drechu Jeremy Corbyn a dod yn arweinydd ar 24 Medi, bydd hefyd yn rhoi addewid i greu Gweinidogaeth Lafur a swydd newydd dros lafur yng nghabinet yr wrthblaid.

Mae 500 o gynghorwyr Llafur ar draws y DU eisoes wedi addo rhoi eu cefnogaeth i Owen Smith.